ϳԹ

Skip page header and navigation

Hafan | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Eich Stori Chi

Girls walking on campus

Eich Stori Chi

Byddwch yn arwr eich stori trwy gael yr union addysg sydd at eich dant. Mae gennym ni 20 maes pwnc i chi ddewis o’u plith. O fewn pob un, mae ystod gynhwysfawr o gyrsiau i’ch ysbrydoli chi. Mae’n amser gafael yn eich dyfodol a throi eich uchelgais yn realiti. 

Rydym ni’n cynnig profiad personol - dosbarthiadau llai a darlithoedd sy’n ysbrydoli, gyda digonedd o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan. Bydd hyn yn golygu bod digon o amser i drafod a bod gennych chi ddealltwriaeth well o’ch pwnc. Byddwch chi’n dysgu gan arbenigwyr a fydd yn eich arfogi â’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i lwyddo ym mhennod nesaf eich stori.

More to Explore

Dechreuwch ar eich Antur

Cewch chi ymgolli mewn pwnc sy’n eich ysbrydoli. Yn ystod eich cwrs, byddwch chi hefyd yn edrych ar wahanol lwybrau gyrfa a dewisiadau ar gyfer eich dyfodol. Beth bynnag yw eich uchelgeisiau, byddwn ni’n eich helpu chi i gychwyn yn llwyddiannus gan gadw eich nodau’n gadarn mewn golwg. 

Gyda graddau mewn celf a dylunio, peirianneg, cyfrifiadura, y dyniaethau, addysg, busnes, rheolaeth, iechyd a chwaraeon, mae gennym ni gannoedd o opsiynau i chi ddewis o’u plith.

Students walking down stairs in IQ

Beth yw eich pennod nesaf?

Does dim ots a ydych chi’n gorffen yn yr ysgol, yn dychwelyd i ddysgu, neu’n hyrwyddo eich gyrfa, cofrestrwch eich diddordeb am gyngor ymgeisio a dechreuwch eich pennod nesaf yma.

Llysgennad Myfyrwyr yn arwain taith o gwmpas y campws

Darganfod Y Drindod Dewi Sant ar Ddiwrnod Agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn cynnig cyfle gwerthfawr i archwilio ein cyrsiau a’n campysau. Byddwch yn cael cipolwg ar sut brofiad yw astudio gyda ni, cwrdd â myfyrwyr presennol, a siarad ag aelodau o’r tîm addysgu. Mae’r digwyddiadau hyn sy’n cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn, yn eich galluogi i ofyn cwestiynau pwysig a fydd yn eich helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am eich astudiaethau yn y dyfodol.

Ffeithiau a Ffigurau

Ffeithiau a Ffigurau

Y Newyddion Diweddaraf a Digwyddiadau i Ddod